gan f8
Mae pencampwriaeth Ewro 2016 wedi cyrraedd. Os na wnaethoch chi sylwi.
Fel rhywun sy’n deall ei bêl-droed yn iawn, mae Daf wedi aros adra. Ac mae Elidir, sydd ddim yn malio llawer am unrhywbeth y tu allan i glwb pêl-droed Dinas Bangor, wedi mynd i Ffrainc. Sy’n gwneud synnwyr llwyr.
Ond os oeddech chi’n poeni bod Fideo Wyth am fod yn dawel yn ystod y bencampwriaeth, ‘da chi’n anghywir. Yn hollol anghywir. O diar mi.
Mae ‘na gyfres fideo newydd yn lawnsio ganddon ni! Yn fyr (‘da ni’n esbonio popeth yn y fideo), fe fyddwn ni’n lawnsio ein ymgyrch ni’n hunain, fel Cymru, yn Pro Evolution Soccer 2016. A dydan ni ddim wedi twyllo. O gwbwl. Felly bosib awn ni allan yn ystod rownd y grwpiau, neu ella ennillwn ni’r holl beth. Cyffro, bois bach.
Fe fydd yr holl fideos yn cael ei ryddhau tua pryd mae’r gemau yn cael eu chwarae yn y byd go-iawn. Cadwch olwg ar y cofnod yma, fydd yn cael ei ddiweddaru wrth i fideos newydd gael eu rhyddhau. Neu, yn well byth, tanysgrifiwch i’n sianel Youtube, a dilynwch ni ar Facebook a Twitter er mwyn cael gwybod yn syth am ein cynnwys newydd.
Heb fwy o ffanffêr, dyma ni’r gêm agoriadol, Cymru yn erbyn Slovakia.
Ymddiheuriadau lu i Joe Ledley.
A dyma ni, by the power of Greyskull, ein gem yn erbyn Lloegr.
Nesa, y Rwsiaid! Hoff elyn pawb! Ond a fydd y siwrne yn gorffen fan hyn?
Na fydd siŵr. Dyma ni yn yr 16 olaf, yn brwydro yn erbyn tîm gwahanol i’r bois yn y byd go-iawn – Awstria. Ond a fydd y canlyniad yr un peth?
Bydd! Ohohoho, bydd! Nesa, yr wyth ola. A mawredd Y Swistir.
A dyna nhw wedi eu curo! Kapow! Bam! A fel y tîm go-iawn, roedden ni yn y rownd gynderfynol ar ein pennau! A fyddwn ni’n mynd un cam ymhellach na nhw, a threchu Y Weriniaeth Siec er mwyn cyrraedd y ffeinal?
Spoilers:
…
…
…
Na.