gan f8
Barod am fideo bonws?
Efallai eich bod chi wedi sylweddoli bod pethau wedi bod fymryn yn wahanol ar y gyfres yma o Y Lle. ‘Da ni wedi bod yn teithio’r wlad yn ymweld â gwahanol sioeau a digwyddiadau, yn hytrach nag eistedd ar y soffa gyfarwydd ‘na.
Fel y gallwch chi ddychmygu, mae sortio tripiau felly yn gallu bod yn dipyn o sialens. Felly er mwyn cael pennod arall yn y bag, fe wnaethon ni beth hollol hurt a ffilmio eitem ein hun, heb griw camera proffesiynol na dim byd. Achos ‘da ni’n dda fel’na.
Yn y diwedd, doedd dim lle i’r eitem ar y rhaglen ei hun, felly dyma hi am y tro cynta – Daf ac Elidir yn mynd drwy sesiwn hegar o chwarae gemau, ac yn rhoi tips i chi sut allwch chi wneud yr un peth.
Nodyn: does ‘na DDIM gwybodaeth o unrhyw werth yn y fideo yma. Dim ond gags stiwpid. Am y teulu Lovgreen, gan amla.
Mwynhewch y peth mwya amaturaidd ‘da ni erioed wedi ei wneud. A cliciwch ‘CC’ i gael gwared ar yr iaith fain, fel arfer.