Dipyn bach o splwrj – warhammer

Mae ‘na geeks a wedyn mae ‘na gîcs. Ma geeks yn edrych ar Game of Thrones ac yn chwarae cwpl o gems ar y ffon neu’n mynd i’r sinema i wylio Marvel films neu rhyw nonsens gwyllt.

Wedyn mae gîcs. Mae gîcs, wrth ei wirfodd, yn mynd i’r goedwig gyda chleddyfau a clogwyni ac yn cal rhyw fath o frwydrau gyda Orcs a phethach a rhywffordd mae hud a lledrith yn rhan o bethau. Ma gîcs ddim jysd yn gwylio Game of Thrones, mae nhw mwy neu lai yn byw y blydi thing ac yn creu syniadau hollol boncyrs am rhyw master plans. Ma nhw hefyd yn chwarae lot o Warhammer. Warhammer yw’r gem na oedd ambell berson yn ysgol (fi) yn gwario ffortiwn nain ar brynu figyrau bach er mwyn creu byddin allan o Sgerbydau neu Corachod. Wel petaw y gem isod wedi dod allan 20 mlynedd yn ol bydd nain wedi gallu mynd ar 4 gwyliau y flwyddyn (heb gynnwys sgio wrth gwrs) a cadw’r chauffeur, ac ie, chuffing ie, mae Warhammer, o’r diwedd, yn cael ei greu fewn i gem PC. SPLWRJ.

Aie dyma ddiwedd ar gîcs go iawn te? Ydy nhw’n mynd i sdopio mynd off i’r coed am ‘frwydrau’ (weles merch oedd wedi gwisgo mewn bicini du a ffon enfawr yn nghoedwig Penglias unwaith). Siwr o fod ddim, jysd ewch i ddarllen darn Elidir am yr amser pan oedd o’n wreslar. Ma nhw’n dod mewn bob cwr a siap bois bach.

Tybed os bydd rig fi yn gallu handlo’r gem hon? Fel arfer, os chi’n gorfod gofyn y cwestiwn yna, na yw’r ateb.

Leave a comment