Reit. At fusnes, bois bach, at fusnes.
Os ‘da chi’n darllen hwn ar pricolawenydd.com, ga i’ch pwyntio chi at y ffaith y bydd cofnodion ar y blog ‘ma hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Fideo Wyth o hyn ymlaen. Os ‘da chi ar wefan Fideo Wyth yn barod, ‘da chi’n ymwybodol o hyn, siŵr o fod. Mae’n syniad cadw llygad barcud fanna am holl stwff Daf Prys, fideos ‘da ni’n gwneud efo’n gilydd, ac yn y blaen, et cetera, hyd ebargofiant. ‘Da ni’n gobeithio troi Fideo Wyth i mewn i rywbeth sbeshal iawn yn y man. Gwyliwch y gofod hwn, ac ystrydebau eraill.
Mae’n ddrwg gen i does ‘na ddim fideo wedi bod gen i am sbel. Dwi yn gweithio ar un ar y funud, ond mae o’n troi i mewn i fwystfil. Cyfres fydd o, mae’n debyg. Ddim yn siŵr pryd fydd y rhifyn cynta’n ymddangos. Ond os ‘da chi’n awchu am gynnwys fideo Cymraeg, ga i’ch pwyntio chi’n garedig at sianel Youtube Fideo Wyth? Es i a Daf i Sioe Datblygiad Gemau Cymru ym Mae Caerdydd wythnos diwetha a chofnodi’r holl brofiad. A dwi yn golygu yr holl brofiad.
Fel blas bach, dyma fi’n trio’r Oculus Rift am y tro cynta, ymhlith pethau eraill.
Hwyl a sbri.
Iawn. Dyna’r busnes drosodd. At bwnc y dydd – ac am yr ail dro yn olynol, dim gemau sydd dan sylw gen i heddiw.
Everybody was kung fu fighting, meddai rhai. Those kicks were fast as lightning, meddai eraill. Eto, mae rhai yn honni: In fact, it was a little bit frightening. Ond gawn ni anwybyddu nhw. Achos eu bod nhw’n amlwg yn hollol bonkers.
Ia, ffilmiau kung fu sydd mewn golwg gen i heddiw. O’n i’n gwbwl obsesd efo rhein yn llencyn ifanc. A do’n i ddim yn rhy ffysd am y rhai da – er y gwna i adael i chi wbod am rai ohonyn nhw yn y man. Y rhai drwg o’n i’n licio. Y rhai drwg iawn. Wedi eu dybio i’r Saesneg (dim isdeitlau, plis), efo enwau fel Mad Monkey Kung Fu, Horse Boxing Killer, a Hard Bastard.
Wna i ddeud hwnna eto. Mae ‘na ffilm yn bodoli o’r enw Hard Bastard. Ac mae o yna, yn llawn, ar Youtube, i chi wylio am ddim. MAE’R BYD ‘MA YN SODDING BRILIANT.
Felly be am i ni gymryd golwg ar rai o’r “goreuon”? Estynnwch botel o êl, archebwch gyri, a paratowch i chwerthin, myn diawl.
Master With Cracked Fingers
Un o ffilmiau cynharaf un Jackie Chan – ac un o’r gwaetha.
Mae o’n dilyn stori debyg i sawl un o ffilmiau cynnar Jackie, fel The Young Master, a hyd yn oed yn serennu Yuen Siu-Tien o Drunken Master a Snake In The Eagle’s Shadow (mwy amdanyn nhw wedyn), yn yr un rôl mae o’n chwarae drosodd a throsodd. Ond lle bod gan y ffilmiau yna elfen o hwyl amdanyn nhw, mae Master With Cracked Fingers jyst… bach yn crap.
Gawn ni ddechrau efo’r teitl. Master With Cracked Fingers. Oes ‘na feistr yn y ffilm? Oes. Sawl un. Oes ‘na feistr efo bysedd wedi cracio yn y ffilm, fel mae’r teitl yn ei awgrymu? Y… nag oes. Oes ‘na unrhywun efo bysedd wedi cracio? Oes ‘na hyd yn oed un cyfeiriad at fysedd, boed nhw’n llyfn neu’n graciedig? Nope. Dwi’n eitha sicr bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am enwi’r fersiynau Saesneg o’r ffilmiau ‘ma un ai ar gyffuriau neu jyst yn mental.
Pa mor ddrwg ydi o? Wel, saith munud i mewn, mae ‘na hen ddyn yn fforsio hogyn bach i dynnu ei ddillad i gyd i ffwrdd cyn gwneud iddo fo neidio i mewn i sach llawn nadroedd. A ‘da chi’n gwbod be sy’n nyts am y fersiwn ar Youtube? Mae o’n torri’r darn lle mae’r hogyn yn neidio i mewn i’r sach. Felly mae ‘na olygfa lle mae ‘na hen ddyn yn mynnu bod hogyn bach yn stripio… am ddim rheswm. Roedd yr olygfa efo’r sach o nadroedd ar y fideo a’r DVD. Ond dim Youtube. Dyma sgript fersiwn Youtube o’r olygfa, yn ei gyfanrwydd.
HOGYN BACH: I’m ready, Master.
HEN DDYN: Good. [Chwerthin] We will begin by placing you in this bag. It is filled with magical powers. First you must remove all your clothes. [Chwerthin eto]
HOGYN BACH: But I’ll be cold.
HEN DDYN: You’re not to question my orders. Get out of those clothes.
HOGYN BACH: OK. [Tynnu ei grys]
HEN DDYN: Don’t take all night.
HOGYN BACH: [Yn dal ei grys i fyny] Here. I’m ready.
HEN DDYN: Remove your pants too.
HOGYN BACH: Do I have to?
HEN DDYN: Do as I say!
…
A DYNA NI!! BE DDIAWL, YOUTUBE!?? Mae’r olygfa wreiddiol yn dodgy, ond rŵan?? Mowredd!
Oni bai am hwnna, mae’r ffilm yn weddol ddiflas. Ond mae ‘na un olygfa arall ddylsa chi edrych arno fo, wedi ei leoli mewn ryw fath o gasino / puteindy, ac yn serennu Dean Shek, actor sydd wastad wedi fy atgoffa i o Wynford Elis Owen am ryw reswm. Gormod o ddyfyniadau nyts i’w rhestru yn y darn yna. Mae o’n dechrau 37:48 i mewn i’r ffilm. Jyst… gwyliwch. A cofiwch, pan gafodd y ffilm yma ei ryddhau, roedd Star Wars wedi bod allan am ddwy flynedd.
Half A Loaf Of Kung Fu
Waw. Roedd gen i fwy i’w ddeud am Master With Cracked Fingers nag o’n i’n feddwl. Fydd gen i ddim y broblem yna efo Half A Loaf Of Kung Fu, achos dwi ddim ‘di weld o. Ond c’mon. Mae Jackie Chan ynddo fo, ac enw’r ffilm, neno’r tad, ydi Half A Loaf Of Kung Fu. Dim gwerth tafell o kung fu. Na, na, na. Gwerth hanner torth. Sut allwch chi golli?
Dwi am watshiad hwn nes mlaen. A dwi am broffwydo un peth amdano fo: fydd ‘na ddim unrhyw sôn am dorth, na phobi, na bara o unrhyw fath. Dyna sut mae’r pethau ‘ma’n gweithio.
City Hunter
Ffilm arall gan Jackie Chan (mae ‘na sêr kung fu eraill ar gael), dydi City Hunter ddim wedi ei leoli yn China’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel lot o’r ffilmiau dan sylw gen i famma, ond yn hytrach wedi ei seilio ar manga poblogaidd o Siapan yr 80au. Mae Jackie’n chwarae ditectif sy’n eitha hoff o’r merched, ac yn cael ei lusgo i mewn i blaniau gang o derfysgwyr ar long cruise. Fel Speed 2. Ond yn well. Jyst abowt.
Mae City Hunter yn lot o hwyl. Dydi o ddim yn ymylu ar fod yn dda, cofiwch. Ond mae o jyst yn stiwpid. O’r dechrau i’r diwedd. Stiwpid, stiwpid, stiwpid. Yn anffodus, dydi’r holl ffilm ddim ar Youtube (os na ‘da chi’n siarad Cantonese) – ond yn lwcus i chi, mae’r olygfa mwya stiwpid yna i fwynhau, efo isdeitlau. Ac yn lwcus i fi, mae ‘na gysylltiad cryf i fyd y gemau cyfrifiadur famma.
Os wnaethoch chi ddim boddran gwylio’r clip yna (ac os felly – wir, pam ‘da chi’n darllen hwn yn y lle cynta?), mae o’n dechrau efo Jackie yn cael ei daflu i mewn i beiriant arcêd Street Fighter II… ac yna yn dychmygu ei fod o ym myd y gêm? Ta ydi o’n troi i mewn i’r cymeriadau o’r gêm go-iawn? Do’n i byth yn siŵr. Ond ydi o otsh? Mae o’n golygu bod Jackie Chan yn gwisgo fel Chun Li. Ac am hynny, dwi’n fythol ddiolchgar. Fel gweddill y ffilm, mae o’n bisâr, dipyn yn rybish, ddim yn gwneud gronyn o sens… ond eto, mae’r tri munud a hanner yna rywsut yn well na Street Fighter: The Movie i gyd. Pwy sa’n meddwl?
One Armed Boxer
Dwi am ddeud rwbath controfyrsial fan hyn: dwi’n meddwl mai hon ydi ffilm ora Jimmy Wang Yu. OK, ella bod ‘na ddadl i’w wneud dros One Armed Swordsman Against Nine Killers, One Arm Chivalry Fights Against One Arm Chivalry, Return Of The One-Armed Swordsman, neu hyd yn oed rai o’i ffilmiau o sydd ddim am ddyn efo un braich. Ond i fi, One Armed Boxer ydi’r boi.
Coegni drosodd. I fod yn onest, dwi ddim yn cofio lot am One Armed Boxer, oni bai am y ffaith ei fod o’n llawn haeddu ei le yn y rhestr ‘ma. Hanner ffordd drwodd, mae’r prif gymeriad yn “colli ei fraich”, ac yn treulio gweddill y ffilm yn trio ac yn methu cuddio ei fraich dde o dan ei grys. Mae’r boi drwg yn edrych fel croes rhwng llew a thramp. Ac yn yr olygfa gynta, mae ‘na gangster yn mynd rownd caffi yn mynnu bod cwsmer arall yn rhoi aderyn mewn caetsh iddo fo. Dyna’r olygfa gyffrous sydd i fod i’ch sugno chi i mewn i’r ffilm.
A dyna’r oll ‘da chi angen ei wbod am One Armed Boxer.
Bruce Lee Fights Back From The Grave
Y peth pwysica wnes i ddysgu pan yn gwneud ymchwil ar gyfer y cofnod yma: roedd ‘na genre o ffilmiau o’r enw “Brucesploitation”. Yn y perlau yma, roedd actorion / styntmen / dynion bin oedd yn edrych yn debyg(-ish) i Bruce Lee yn cael eu cyflogi mewn ffilmiau kung fu rhad, mewn ymgais i wneud ceiniog neu ddau allan o farwolaeth y dyn ei hun. A dydyn nhw ddim yn mynd lot gwaeth na Bruce Lee Fights Back From The Grave. ‘Da ni’n crafu gwaelod y gasgen go-iawn famma, folks.
Mae o’n dechrau addawol, os braidd yn amharchus. Mae hi’n ddiwrnod braf. ‘Da ni’n cael shot o fedd Bruce Lee – dim y bedd go-iawn, ond un rhad, wedi ei wneud o gardbord. Mellten! Torri’n ôl at y bedd – mae hi bellach yn nos am ryw reswm. Mae ‘na ddyn yn neidio allan o’r bedd, ac yn dangos ei gyhyrau fel Lou Ferrigno yn chwarae’r Hulk. Mae teitl y ffilm yn ymddangos ar y sgrîn. Hwre! Mae o nôl! Mae Bruce Lee nôl! Ac i brofi’r pwynt, ar ôl y teitlau agoriadol, ‘da ni’n cael cip ar boster y ffilm.
‘Da chi’n barod am hwn?
Dyna Bruce. Yn neidio allan o fedd, jyst fel yn y ffilm. Ac yn ymosod ar ryw fath o ellyll / diafol / ystlum, efo gwyneb… Kojak? A be mae’r ddynes ‘na’n wneud wrth ei ymyl o? Pam bod hi ‘di penderfynu mynd i’r fynwent mewn dillad mor sgimpi, a hithau mor stormus?
Be ddiawl?
Mae hyn i gyd yn digwydd o fewn 41 eiliad. Ac ar ôl hynny…
… dim sôn eto am Bruce Lee. O gwbwl. Mae gweddill y ffilm am bethau cwbwl wahanol. Ac – os ga i fod yn blwmp ac yn blaen – mae o’n shit.
Doedd ‘na ddim we pan o’n i’n blentyn, ‘da chi’n gweld. Doedd gen i ddim ffordd o wbod bod o’n mynd i fod mor wael. Tysa chi ‘di gweld fideo ar y silff mewn siop efo’r clawr yna, ydach chi wir yn disgwyl i fi goelio y bysa chi ddim ‘di brynu o? O’n i’n despret am stwff kung fu newydd. O’n i’n prynu unrhywbeth. Ond yn lwcus, wnaeth ‘na un neu ddau o berlau ffeindio eu ffordd i mewn i nghasgliad.
Yn benodol, mwy o stwff cynnar Jackie Chan – ond y stwff da. Mae Snake In The Eagle’s Shadow a Drunken Master yn briliant. Ond do’n i ddim yn sylweddoli hyn ar y pryd, achos pan o’n i’n blentyn, dim ond fideos wedi eu dybio oeddech chi’n gallu eu cael. Ac mae unrhywbeth wedi ei ddybio yn swnio’n stiwpid. Dwi’n cofio gwatshiad Ghostbusters 2 wedi ei ddybio i mewn i’r Eidalaidd unwaith, a gesiwch be? Stiwpid. Dim ond pan ges i’r DVDs, a throi’r isdeitlau ymlaen, wnes i sylweddoli pa mor dda oedden nhw. Ella eu bod nhw ar gael ar Youtube am ddim. Dwi’m yn gwbod. Dwi ddim ‘di checio. Ond os gallwch chi, ewch i chwilio amdanyn nhw ar DVD / Blu-Ray, neu eu lawrlwytho’n neis ac yn gyfreithiol. Mae nhw’n lot o hwyl, ac yn werth eu cael.
Wedyn mae ganddoch chi ffilmiau go-iawn Bruce Lee, wrth gwrs, fel Way Of The Dragon, Fist Of Fury, a…
Dwi’n diflasu fy hun. Dwi ‘di cael digon ar sôn am ffilmiau da. Lle mae’r hwyl yn hwnna? ‘Da chi isio gwbod am fwy o ffilmiau rybish. Yn lwcus, mae ‘na gannoedd ar Youtube. Wna i’ch gadael chi efo rhestr ohonyn nhw. Dwi ddim ‘di gweld yr un o’r rhain. Ond pam ddim clicio ar un ar hap, er mwyn profi sut oedd o’n teimlo i fod yn blentyn fel fi, yn crwydro rownd siopau fideo’r wlad yn chwilio am eich fix? Wnewch chi ddim dyfaru’r peth.
Exit The Dragon, Enter The Tiger
…
OK, ella wnewch chi ddyfaru’r peth chydig bach.
– Elidir
[…] chwaith. Mae ‘na sawl peth ar gemau bwrdd ganddon ni, ar ben stwff ar ffilmiau arswyd, ffilmiau kung fu gwael, cyfresi gwe, The Walking Dead, comics… dim bod ni isio sathru ar draed IAS, sy’n […]