Gemau Diweddar, Rhan 8

Llond sach o gemau wedi eu chwarae gen i eto. Ac mae’n ddiwrnod braf. Be am fynd drwyddyn nhw, fi a chi?

Batman: Arkham Knight (PS4 / Xbox One / PS4, 2015)

Wedi gwneud adolygiad fideo o hwn yn barod, welwch chi. A jiw jiw, dyma fo.

Dragon Quest IX: Sentinels Of The Starry Skies (DS, 2010)

Dwi mor, mor falch o fod wedi gorffen hwn. Roedd o ar ei hanner gen i am tua blwyddyn, a finnau ddim yn gallu magu digon o amynedd i gario mlaen. Ond bellach, mae’r credydau wedi rowlio, a dwi’n gallu parhau efo ‘mywyd.

Er fy mod i’n ffan o’r JRPG, dyma’r tro cynta i fi chwarae gêm Dragon Quest. Yn Siapan, mae’r holl wlad yn cymryd diwrnod i ffwrdd pan mae ‘na gêm newydd yn y gyfres yn cael ei ryddhau. Dwi ddim cweit yn siŵr pam. Does ‘na ddim mawr yn bod efo Dragon Quest IX, ond dydi o ddim yn gwneud unrhywbeth newydd. Sy’n dipyn o broblem pan mae o tua 50 awr o hyd. Yn y diwedd, be wnes i oedd sticio hwn yn y DS a’i chwarae’n ddifeddwl tra’n gwrando ar oriau o bodlediadau, jyst i gael y peth drosodd.

O, un peth am y gêm sy’n hynod o annifyr, rŵan dwi’n cofio. Wnaeth o gymryd lot, lot gormod o amser – ryw 5-10 awr – ar ôl gorffen y prif gêm, i fi fod yn ddigon cry i guro’r bos ola. 5-10 awr o jyst cerdded o gwmpas ac ymladd yr un gelynion, drosodd a throsodd, er mwyn dod yn gryfach. Ddim yn dod yn agos at fod yn hwyl.

I’r ffans hardcore o’r math yma o beth yn unig, felly. Ac i unrhywun sy’n dod o Siapan.

Hitman 2: Silent Assassin (PS2 / Xbox / Gamecube / PS3 / Xbox 360 / PC, 2002)

Am ba bynnag reswm, mae gen i bentwr o’r gemau Hitman ar y silff, yn disgwyl i gael eu chwarae. A wnes i ddechrau efo hwn – gêm wnes i chwarae yn wreiddiol ar y Gamecube pan ddaeth o allan, ac ei ail-chwarae ar yr Xbox 360, mewn HD sgleiniog.

Mae gen i atgofion cynnes o hwn, ac er bod o wedi dyddio eitha dipyn, mae’n falch gen i ddweud ei fod o’n dal i fod yn lot o hwyl. ‘Da chi’n teimlo ryw fath o bŵer rhyfedd wrth gerdded yn amyneddgar drwy’r lefelau, gwn wedi ei guddio o dan eich siaced. Weithiau mae pethau’n mynd o’i le, ac mae’r lefelau yn troi i mewn i gêm saethu gwael yn hytrach na gêm stealth. Ond, hyd yn oed 13 mlynedd ar ôl ei ryddhau, mae ‘na apêl eitha cryf i Hitman 2.

Rocket League (PS4 / PC, 2015)

Un o gemau’r flwyddyn. Ac os oeddech chi wedi tanysgrifio i PS+ fis diwetha, roedd o am ddim ar y PS4. Waw.

Fe ddaeth Rocket League allan o nunlle. Yn ddilyniant i gêm o’r enw Supersonic Acrobatic Rocket-Powered Battle-Cars (ym… ia… do’n i ddim ‘di clywed amdano fo chwaith), mae’n hynod o syml, ond ymysg y pethau mwya addictive dwi wedi ei chwarae’n ddiweddar. Fyddwch chi’n dreifio car roced bach o gwmpas stadiwm, mewn timau o ddau, o dri, o bedwar, neu’n solo, ac yn chwarae pêl-droed.

Mae’n gêm hawdd iawn i bigo ei fyny a meddwl bod chi’n gwybod be ‘da chi’n ei wneud, ond mae’n hynod o anodd ei feistrioli. Eto, os ‘da chi’n gallu gwneud (a dwi’n bell o gyrraedd y lefel yna), fe allwch chi gyflawni triciau gwyrthiol.

Ond y peth hudolus am Rocket League, a’r rheswm dwi’n ei argymell i bawb, ydi hyn: mae’n ailgreu’r teimlad ‘na o chwarae pêl-droed efo’ch ffrindiau pan yn fach (jumpers for goalposts, etc. etc.), yn well nag unrhyw gêm arall. Yn well na FIFA, Pro Evo, Sensible Soccer… mae pawb jyst yn crasho i mewn i’w gilydd, yn baglu dros y bêl, ac ar ddiwedd bob gêm, ‘da chi jyst isio chwarae eto. Tan i’r haul fynd i lawr a’ch mam alw chi i mewn ar gyfer swper.

Pum seren. Da iawn bawb.

Hitman: Contracts (PS2 / Xbox / PS3 / Xbox 360 / PS3, 2004)

Hitman

Dim lot i ddweud am hwn. Mae rhan helaeth o Contracts wedi ei godi’n syth o’r gêm Hitman cynta, jyst yn fwy llyfn a phrydferth. Ac mae hwnna’n iawn. Jyst ei fod yn rhannu lot o’r un cryfderau a gwendidau â Hitman 2.

Mae ‘na lai o lefelau, ond mae nhw’n tueddu i fod yn fwy diddorol, yn gyffredinol. Mae’r un mewn gwesty yn wych.

Ond ia. Gêm Hitman arall. A dyna ni.

Limbo (PS3 / Xbox 360 / PS4 / Xbox One / Wii U / Vita / iOS / Android / PC, 2010)

Roedd Rocket League am ddim ar PS+ fis diwetha, ac mae Limbo am ddim mis yma. Dyna be dwi’n alw’n fargen.

Gollais i hwn pan ddaeth o allan yn 2010. Sy braidd yn od, gan ei fod o wedi cael ei ryddhau ar fwy neu lai bob un system yn y byd. Dwi’n falch iawn fy mod i wedi cael cyfle i’w chwarae o’r diwedd. Yn gêm blatfform efo posau’n dod allan o bob twll a chornel, y peth agosa i Limbo ‘da ni wedi ei drafod ar f8, mae’n debyg, ydi Never Alone. Ac er cymaint oedden ni’n hoff o hwnna, dwi’n meddwl bod Limbo yn well. Mae ganddo fo’r peth gwych ‘na sy gan y gemau Mario, lle mae o’n taflu syniadau allan, ac yna’n eu hanghofio nhw’n syth a symud ymlaen at rwbath hollol newydd.

Mae’n para ryw bedair awr, mae’r graffeg yn hyfryd, mae’r posau yn neis ac yn anodd, heb fod yn annheg, ac os ‘da chi’n berchen ar PS4, mae o AM DDIM rŵan. Dim rheswm i beidio mynd amdani, felly.

O… un rheswm i beidio. Os ‘da chi ofn pryfaid cop, well i chi osgoi hwn. Achos… mam bach.

– Elidir

One comment

Leave a reply to Ar Yr Olwg Gynta: Super Mario Maker | fideo wyth Cancel reply