Clwb Llyfrau f8: Yr Horwth

gan Elidir Jones

Ia, ia, dwi’n gwbod. Dwi ddim wedi sgwennu unrhywbeth ar fideowyth.com ers mis Chwefror. Ond i fod yn deg, dwi ‘di bod yn brysur.

Ymysg pethau eraill: gwaith llawn-amser ym Mhrifysgol Caerdydd, Cynefin ar S4C, I Was There ar Radio Wales, Peff, sef addasiad o’r llyfr Fing gan David Walliams (allan rŵan)…

… a wedyn dyna Yr Horwth, sef y rheswm dwi wedi’ch llusgo’n ôl yma heddiw.

Dyma fy nofel ffantasi newydd i bobl ifanc, y cyntaf (gobeithio) mewn cyfres o’r enw Chwedlau’r Copa Coch.

map

Tua 2014 – yn yr oes aur cyn Brecsit, a’r Arlywydd Trump, a Neil Hamilton AC, a’r Prif Weinidog Boris Johnson, a mam bach, ‘da ni mewn trwbwl – ddechreuais i weithio ar nofel ffantasi o’r enw Ffrwyth y Duwiau, efo’r bwriad o’i rhyddhau o fewn ychydig fisoedd.

Ro’n i allan o waith. Dyna’r math o beth dwi’n ei wneud.

Wel, ddaeth ‘na jobsys yn ddigon buan. Anghyfleus. Ac er fy mod i wedi gorffen drafft o Ffrwyth y Duwiau erbyn hyn, mae o’n dal i eistedd yn nghrombil fy nghyfrifiadur, yn hytrach nac ar silff lyfrau.

Ond do’n i ddim yn gallu gadael i’r byd newydd ‘ma fynd. Es i ati i hel syniadau amdano, a rhoi seiliau miloedd o flynyddoedd o hanes, brwydrau, duwiau, arwyr ac anturiaethau yn eu lle. Wnes i hyd yn oed gyhoeddi stori fer ar wefan Y Stamp, sy’n gweithio fel ryw fath o prequel llac i Ffrwyth y Duwiau. Os am gael blas ar y byd, allech chi ddarllen honno, mewn tair rhan, fan hyn, fan hyn a fan hyn.

Ddatblygodd pethau ddim ymhellach na hynny… tan i fi symud i Gaerdydd o’r gogledd, a chysylltu efo’r arlunydd Huw Aaron.

Roedd Huw a fi wedi bod yn siarad dros e-bost ers sbel – fo’n dilyn Fideo Wyth (fel unrhyw nyrd Cymraeg gwerth ei halen, thgwrs), a minnau wedi fy nghyffroi’n lân efo’i brosiectau yntau, fel y comic Mellten a’i gardiau brwydro yn seiliedig ar chwedlau Cymru.

Mater o amser oedd o tan i ni gyd-weithio. Ar ôl un cyfarfod efo cwmni Atebol a dipyn go lew o waith meddwl ar ein rhan ni’n dau, ddechreuodd un syniad gymryd siâp…

siwrne ffion

Mae stori Yr Horwth yn cychwyn wrth ddilyn merch ifanc, Ffion, sydd ar ei ffordd i fyny llethrau serth a pheryglus mynydd o’r enw’r Copa Coch. Ar y brig mae pentre sydd wedi bod yn denu anturiaethwyr fel hithau ers blynyddoedd maith, yn dod at ei gilydd yno i hel straeon, cyn mynd ar anturiaethau ledled y byd, ac yn dod yn ôl gyda’u cyfoeth, y pentre’n tyfu o’u hamgylch.

Ond wrth i Ffion gyrraedd y copa, mae hi’n darganfod y pentre wedi ei losgi’n ulw. Does neb ar ei gyfyl… oni bai am un dyn. Orig, y tafarnwr. Wrth i Ffion setlo i lawr wrth y bar gyda diod yn ei llaw, mae o’n cychwyn ar y dasg o adrodd holl hanes y lle – o’i ddechrau chwedlonol, hyd at ei ddiwedd anffodus.

Croesodd Ffion ei breichiau.
“Ddes i yma am antur, hen ddyn, nid i glywed stori hir.”
Chwarddodd Orig.
“Beth am stori hir … yn llawn antur?”

Y bwriad ydi adrodd yr hanes dros nifer o gyfrolau, efo’r darllenwyr yn dilyn datblygiad y pentre wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen. A dyna, yn addas iawn i Fideo Wyth, lle mae gemau fideo’n dod i mewn…

Ro’n i wedi fy nylanwadu’n arw gan gemau fel The Settlers, Age of Empires, Minecraft. Y teimlad ‘na o lwytho gêm newydd ar ddechrau pnawn Sul, efo map gwag o’ch blaen, a cherdded i ffwrdd ar ddiwedd y dydd wedi llenwi’r map efo’ch creadigaeth unigryw eich hun – wedi gweld pentre’n datblygu o’ch blaen, fesul adeilad.

Os daw ‘na gyfres o lyfrau i fodolaeth, dwi wir isio i’r darllenwyr deimlo’r un peth wrth ei darllen. Isio iddyn nhw deimlo perchnogaeth ar y pentre, a malio am ei thrigolion…fel fersiwn ffantasi o’r gyfres Deadwood.

Jest bod ‘na dipyn llai o regi yn hwn. Gaddo.

Yn y gyfrol gyntaf, wrth gwrs, fe gawn ni hanes ffurfio’r pentre yn y lle cynta, wrth i ni ddilyn pump o anturiaethwyr annisgwyl i’r Copa Coch, ar daith i drechu’r bwystfil hunllefus sydd wedi gwneud ei gartref yno – yr Horwth ei hun.

Pietro, y mynach ifanc, sy’n caru antur (bron) gymaint ag y mae’n caru llyfrau.

Heti, y bownsar arallfydol o gryf, sy’n fwy o ffan o gadair esmwyth a phaned o de na’r busnes ‘anturio’ bondigrybwyll ‘ma…

Nad, y consuriwr, sy’n plethu jôcs a thriciau hud. Siom nad ydi o’n lot o ddewin. Nac yn arbennig o ddigri.

Sara, y gogyddes wyllt o’r coed… ac ella’r figan cynta’ i mi erioed ddod ar ei thraws mewn llyfr ffantasi.

sara

A Casus, yr arwr chwedlonol. Fel Aragorn, Jon Snow a Simon Belmont wedi eu rowlio’n un. Dyn sydd wedi trechu sawl anghenfil, ellyll, a dewin maleisus, ond sydd bellach yn wynebu ei dasg anoddaf un – cadw’r criw brith yma rhag dinistr.

Ddweda i ddim llawer mwy am y stori na hynny – dim ond bod y pump yma’n mynd ar daith beryglus drwy ddinasoedd, coedwigoedd a thwneli, dros fryniau, clogwyni, a mynyddoedd, cyn cyrraedd pen eu taith: y Copa Coch, yr Horwth… a phwy a ŵyr be arall?

Mae’n lyfr sy’n ymfalchïo yn y genre ffantasi, ac wedi ei ysgrifennu er mwyn cyflwyno darllenwyr ifanc iddo – ond gobeithio ei bod hi’n glir o ddisgrifiadau’r cymeriadau fy mod i wedi trio gwneud pethau fymryn bach yn wahanol. Falle bod Yr Horwth wedi ei adeiladu ar y seiliau roddodd Tolkien yn eu lle, ac yn codi’r baton gan Dungeons & Dragons, ond mae ffantasi wedi symud ymlaen eitha dipyn yn y blynyddoedd diwetha. Gobeithio bod y llyfr yn adlewyrchu hynny.

Ddylswn i hefyd nodi bod Yr Horwth i fod hefyd i apelio at ddarllenwyr sydd ddim yn arbennig o hoff o ffantasi. Ydi, mae’r byd yn ddychmygol, a’r enwau’n rhyfedd, a’r stori’n llawn bwystfilod ac ysbrydion a stwff da fel’na. Ond fel dywedodd William Faulkner (ac fel mae George R. R. Martin yn hoff o’i ddyfynnu), “… the human heart in conflict with itself… only that is worth writing about, worth the agony and the sweat.” Y tu allan i’r sefyllfa hurt, y cymeriadau sy’n bwysig i fi. Er bod popeth o’u cwmpas yn hurt, dwi’n meddwl bod nhw’n rai sy’n hawdd uniaethu â nhw.

Ond yn fwy na dim, dwi’n gobeithio bod Yr Horwth am gael croeso mawr gan ffans ffantasi dros Gymru – o bob oed. Er mai pobl ifanc rhwng 11 – 14 ydi’r prif darged, dwi ddim yn gweld unrhyw rwystr i ddarllenwyr ieuengach. Ddarllenais i Lord of the Rings yn ddeg oed, ac mae Yr Horwth lot (lot, lot, lot, lot) symlach.

Dwi’n mawr obeithio hefyd y bydd darllenwyr hŷn yn cael blas ar y nofel. Es i ddim ati i sgwennu llyfr plant o gwbl, deud y gwir, ond yn hytrach llyfr i oedolion efo’r holl ddarnau diflas wedi eu hepgor, fel bod y plot yn symud ymlaen yn frawychus o gyflym a’r brwydrau a’r ffrwydradau’n dod yn gyson. O’m safbwynt i, dyma’r union fath o nofel ffantasi dwi ‘di bod yn awchu amdani yn y Gymraeg.

Dwi’r mymryn lleia’n biased, dwi’n gwbod.

Fyswn i ddim wedi medru gwneud dim, wrth gwrs, heb gyfraniad ac anogaeth Huw Aaron, sydd wedi bod yn gymaint mwy nag arlunydd ar hyd y daith. Ar ben gwneud cyfraniadau i’r stori, mae dychymyg Huw hefyd wedi siapio’r byd newydd ‘ma, efo ambell greadur a dinas wedi neidio’n syth o’i ymennydd, ac ar y dudalen.

Un enghraifft: mae rhannau agoriadol y nofel yn digwydd mewn porthladd wyllt o’r enw Porth y Seirff. Yn fy meddwl i, roedd hi’n dref ffantasi ddigon confensiynol ger y môr, wedi ei hamgylchynu gan goedwig. Ond fe ddaeth Huw i fyny efo syniad gymaint gwell: bod adeiladau’r dref yn y coed, gan wneud i’r lle deimlo fel croes rhwng Mos Eisley a phentre’r Ewoks o Return of the Jedi. Ac yn ei dro, fe gynigiodd hyn fwy fyth o bosibiliadau ar gyfer adeiladu byd cofiadwy: bod uchelwyr y dref, er enghraifft, yn trigo’n y brigau uchaf, a’r tlodion yn crafu byw ger llawr y goedwig.

Ac wrth gwrs, mae unrhyw frwydrau a ffeits sy’n digwydd yno (ac mae ‘na fwy nag un) yn lot gwell o’i herwydd.

pys

Mae’r byd yma gymaint mwy lliwgar diolch i ddylanwad Huw… os nad oedd y lluniau sy’n dotio’r cofnod yma’n brawf o hynny’n barod.

Dim ond un peth sydd ar ôl i’w ddweud: fy mod i wir yn gobeithio bod Yr Horwth yn lwyddiant. Yn benodol, achos bod gen i gant a mil o straeon eraill i’w hadrodd yn y byd yma. Gwerth degawdau ohonyn nhw, i ddeud y gwir. A’r unig ffordd ga i’r cyfle i wneud hynny ydi os ydi’r seiliau yn ddigon cryf, a bod Yr Horwth yn gwerthu digon i gyfiawnhau’r peth.

Felly, os ydych chi’n ffan o ffantasi yn Gymraeg, neu’n awchu am fwy o ffuglen gwreiddiol i bobl ifanc, neu jest o’r farn bod straeon gwyllt am arwyr a bwystfilod yn werth eu cael – lledaenwch y gair am Yr Horwth, ac ewch i chwilota am gopi yn yr Eisteddfod, neu yn eich siop lyfrau, neu ar-lein, o wefan Atebol.

Fyddwn i wrth fy modd yn darllen sylwadau gan unrhyw un sydd wedi gwneud y naid – un ai fan hyn, neu ar fy nghyfri Twitter.

Mwynhewch y siwrne i’r Copa Coch – dwi’n gobeithio eich gweld chi yno eto!

Advertisements

2 comments

Leave a Reply to 𝙷𝚞𝚠 𝙰𝚊𝚛𝚘𝚗 (@huwaaron) Cancel reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s