Mario ar Hyd yr Oesoedd

gan Elidir Jones

Jest dros wythnos tan i Super Mario Odyssey gyrraedd, ac fe allech chi deimlo’r cyffro yma yn f8 HQ. Does dim posib troi rownd heb daro mewn i gêm Mario newydd y dyddiau yma – roedd Mario vs Rabbids Kingdom Battle allan ddeufis yn ôl, er enghraifft. Ond mae gêm ym mhrif gyfres Mario – y gyfres roddodd rai o’r clasuron mwyaf erioed i ni – yn rhywbeth i’w ddathlu.

Fe alla i ddiolch i Mario am y ffaith fy mod i’n chwarae gemau o gwbwl. Cyn i fi brofi gêm Mario am y tro cynta, doeddwn i ddim wedi chwarae llawer o ddim, oni bai am stwff ar hen gyfrifiadur yr Amstrad CPC. Dim byd rhy sbesh.

Ond yna daeth y plymar bach mewn glas a choch. Dwi dal yn cofio’r tro cynta i fi eistedd i lawr o flaen yr hen deledu yn y stafell fyw, a lliwiau gogoneddus Super Mario Bros. yn byrstio ar y sgrîn. Do’n i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg. Ac os oedd o’n edrych yn dda, roedd y profiad chwarae ymhell y tu hwnt i ddim byd arall oedd ar gael ar y pryd.

A byth ers hynny, mae Mario wedi bod yn rhan gyson o ‘mywyd i. Mae’n gysylltiad pendant efo fy mhlentyndod. Un wna i byth roi’r gorau iddo, am wn i. Dim tra bod y gemau yn parhau i fod yn hollol siwpyrb, ta beth.

A sôn am y gemau… mae’n hen bryd i ni wneud rhywbeth ‘dan ni erioed (am wn i) wedi ei wneud o’r blaen, a rhestru’r gemau Mario gorau. Tasg bron yn amhosib. Fel gorfod dewis eich hoff blentyn.

Ond dwi am drio fy ngorau beth bynnag. Dwi’n wirion fel’na.

5. Super Mario World

Doedd Super Mario World ddim yn cynrychioli naid enfawr i’r gyfres. Roedd o wedi lawnsio efo’r Super Nintendo, oedd, efo’i graffeg 16-bit ffansi, yn cnocio’r hen NES allan o’r dŵr. Ond o ran mecanwaith, roedd Mario World yn adeiladu ar seiliau Super Mario Bros. 3… jest yn ychwanegu mwy. A mwy. A mwy.

A’r peth mwyaf, wrth gwrs, oedd Yoshi. Y deinosor gorau mewn gemau, heb os nac oni bai, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn seren ar ei liwt ei hun. Hyd yn oed heddiw, mae ‘na rywbeth arbennig am neidio ar ei ben, rhedeg yn wyllt drwy lefelau yn llowcio’r gelynion i gyd… a wedyn neidio oddi ar glogwyn mewn camgymeriad, a gadael i Yoshi ddisgyn i’w farwolaeth tra’ch bod chi’n neidio’n rhydd.

Sori, mêt.

4. Super Mario Galaxy 2

Mae ‘na baralel digon od rhwng gemau 2D a 3D Mario. Y rhai cynta, beth bynnag.

Super Mario Bros. Super Mario 64. Y cam cyntaf i fyd newydd. Syml. Effeithiol.

Super Mario Bros. 2 Super Mario Sunshine. Trio newid y fformiwla… heb fod yn hollol lwyddiannus.

Super Mario Bros. 3 Super Mario Galaxy. Yn ôl at y fformiwla wreiddiol, ond efo ambell dro bach digon diddorol yn y gynffon. Ac yn cnocio’r peth allan o’r parc.

A wedyn dyna Super Mario World Super Mario Galaxy 2. Sydd – fel dwi wedi esbonio eisoes – yn cynnig mwy o’r un peth. Ond, fel Mario World, mae Galaxy 2 hefyd yn cynnwys Yoshi.

Mae o yn y rhestr ar ei ben.

3. Super Mario Bros. 3

Dyma’r tro cyntaf i fi gyffroi’n wyllt am gêm. Diolch, mae’n siŵr, i’r hysbysebion teledu ar gyfer Super Mario Bros. 3 – sy’n dal i fod yn epic hyd heddiw.

Dwi’n cofio deffro’n wirion o gynnar ar fore Dolig, 1991, â Mario 3 yn disgwyl o dan y goeden. Fi a ‘mrawd yn ei chwarae’n hapus am ryw funud fach… cyn i fi dywallt bocs o Lego dros y llawr, deffro fy rhieni, a cael fy ngyrru nôl i’r gwely. Idiyt.

Fe wnaeth pethau wella wedi hynny. Aeth misoedd heibio, minnau’n gwthio fy ffordd ymhellach ac ymhellach i mewn i’r gêm. Mae Mario 3 yn anodd. Ond rhwng yr holl dynnu dannedd, mae’n cynnwys gymaint o adegau sy’n debyg o fyw am byth yng nghof pawb sydd wedi ei chwarae.

Y lefelau briliant ar y llongau awyr, peli canon yn fflio o’ch cwmpas ym mhobman. Y cyfrinachau, rhai wedi eu cuddio mor dda, dwi byth yn cofio sut i ddod o hyd iddyn nhw hyd heddiw. (Lle ddiawl mae’r siwt morthwyl eto?) Ac wrth gwrs, y foment arbennig ‘na ar y lefel gynta un lle ‘dach chi’n rhoi pâr o glustiau racŵn ar eich pen a hedfan i mewn i’r cymylau.

Clasur, wnaeth wthio’r NES i’r eithaf.

2. Super Mario 64

Hyd heddiw, dwi’n meddwl mai’r profiad o chwarae Super Mario 64 am y tro cynta ydi’r un gora dwi erioed wedi ei gael efo gêm.

Sôn am naid dechnolegol. Fe es i o’r Super Nintendo… i hwn.

Roedd y peth yn afreal. Dwi ddim yn meddwl fydd ‘na unrhyw beth i gymharu, byth eto. Doedd hyd yn oed trio VR am y tro cynta ddim yn dod yn agos. Am y tro cynta erioed, roedd hwn yn teimlo fel byd go-iawn. Fel bocs tywod allech chi fynd ar goll ynddo fo am ddyddiau. Ac fe wnes i.

Ac mae’n hawdd anghofio, erbyn hyn, gymaint o bethau gafodd Super Mario 64 yn iawn, yn syth allan o’r giât. Mae’r gêm yma – ddaeth allan dros 20 mlynedd yn ôl – yn gwneud pethau dydi rhai modern ddim yn gallu eu gwneud. Dwi’n edrych arnat ti, Yooka-Laylee.

Super Mario 64, yn fwy nag unrhyw gêm arall, roddodd enedigaeth i gemau 3D. Mae gan Nintendo hanes o daflu bom i mewn i fyd y gemau o bryd i’w gilydd. A’r enghraifft fwyaf, wrth gwrs…

1. Super Mario Bros.

Be arall ellith fod ar frig y rhestr ond y gêm wnaeth – a dim dadlau, plis – ddyfeisio’r gêm blatfform.

Pob rhan o’r profiad – cynllunio’r lefelau, y gerddoriaeth, y gelynion – wedi suddo’n ddwfn i mewn i’r ymwybyddiaeth boblogaidd.

Y gêm fwyaf eiconig erioed.

Bron i 30 mlynedd ar ôl i fi chwarae Super Mario Bros. am y tro cynta, a dwi dal yn mynd yn ôl at y peth o bryd i’w gilydd. Anodd peidio, pan mae’r gêm wedi ei rhyddhau ar fwy neu lai bob un consol Nintendo erioed. Yr eiliad mae’r gân yna yn cicio mewn, mae’r blynyddoedd i gyd yn llifo i ffwrdd, a dwi’n blentyn bach unwaith eto. Hud a lledrith pur. Dim byd llai.

Felly. A fydd Super Mario Odyssey yn llwyddo gwasgu ei ffordd i mewn i’r rhestr yma o’r goreuon? Bosib iawn. Mae’r adolygiadau yn dechrau triclo allan erbyn hyn, ac mae nhw’n edrych yn dda. Yn dda iawn.

Gewch chi ddarllen ein barn ni, wrth gwrs, fan hyn ar Fideo Wyth.

Neu gewch chi chwarae’r gêm eich hun, wrth gwrs. C’mon. Os ‘dach chi ddim isio chwarae Mario, pam ‘dach chi yma?

 

 

3 comments

Leave a comment