Goreuon 2015: Rhan 2

Amser cymryd golwg ar fwy o uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwylliannol. Os fethoch chi fi’n mwydro am gemau bwrdd, comics, a llyfrau, clic clic fan hyn. Ond os ‘da chi’n barod am y rownd nesa, ‘co ni off. Eto.

Record: Rogue Jones – V.U.

BLINC7

‘Da ni ddim fel arfer yn trafod cerddoriaeth yma ar f8… oni bai am gerddoriaeth mewn gemau. Ac roedd hynny amser maith yn ôl. Ond mae’n Ddolig. ‘Da ni’n rhwygo’r llyfr rheolau yn ddarnau mân.

Dwi’n ffan mawr o gerddoriaeth. Hyd yn oed wedi chwarae mewn band neu ddau yn fy amser. Ond am ba bynnag reswm, dwi ddim wedi prynu lot o gerddoriaeth newydd flwyddyn yma. Serch hynny, mae’n falch gen i ddweud bod fy hoff record o’r flwyddyn yn dod o Gymru fach.

Dwi wedi bod yn dilyn y ddeuawd Ynyr Ifan a Bethan Mai ers iddyn nhw fod yn rhan o’r band Them Lovely Boys nôl yn y dydd. Y… dilyn nhw’n gerddorol, ‘lly. Dim mewn ffordd creepy. A bellach mae nhw, o dan yr enw Rogue Jones, wedi rhyddhau’r record briliant oedd yn llechu y tu mewn iddyn nhw yr holl amser.

Ym… mae hwnna’n swnio fymryn yn creepy hefyd. Sori.

O linell fâs fywiog “Afalau” i naws Springsteen-aidd / Gaslight Anthem-aidd “Halen” i wallgofrwydd llwyr “Little Pig Of Tree”, mae ‘na rwbath i bawb yma, tra bod yr albym yn teimlo fel cyfanwaith ar yr un pryd. Gwych o beth.

Dewis Arall: Bob Dylan – Shadows In The Night
Ia. Fel ddywedais i, wnes i ddim gwrando ar lot flwyddyn yma. Dwi’n siŵr bod ‘na recordiau gwell wedi eu rhyddhau na’r casgliad yma o ganeuon Frank Sinatra. Ond peidiwch â’i gnocio fo tan i chi drio fo. Mae clywed Bob Dylan yn canu “What’ll I Do” (aka y gân o Birds Of A Feather) werth pris llawn y record, yn fy marn i.

Rhaglen Deledu: Game Of Thrones

game-thrones-season-5

Digon teg, ella doedd y gyfres yma o Game Of Thrones ddim ymysg y goreuon. Ond hyd yn oed ar ei wannaf, mae GOT ben ac ysgwydd uwchben bron i bob dim arall ar y teledu.

Er bod rhai wedi cwyno bod y gyfres yn mynd ymhellach ac ymhellach o ddeunydd gwreiddiol y nofelau, mae’n rhaid cyfadde bod lot o’r newidiadau yn welliannau. Yn hytrach na gweld Jon Snow yn troedio’n ddiddiwedd o gwmpas Castle Black am yr holl gyfres, ‘da ni’n ei weld yn chwarae rhan allweddol yn y bennod “Hardhome” – uchafbwynt y gyfres, heb os nac oni bai. Mae stori Tyrion wedi ei llyfnhau, mae cyfuno straeon Sansa a’r Boltons yn gwneud lot o synnwyr, ac mae dilyn Daenerys yn Mereen yn lot llai undonog nag oedd o yn y llyfrau, diolch byth.

Dydi o ddim yn fêl i gyd. Y portread o’r “Sand Snakes” ydi peth gwaetha yn hanes y rhaglen, dwi’n meddwl. Dydi stori Stannis yn ail hanner y gyfres ddim yn dod yn agos at fod yn foddhaol. Ac mae Brienne yn treulio’r holl gyfres yn eistedd ar ei phen-ôl yn hytrach na gwneud unrhywbeth o werth.

Ond fedrith neb wadu bod yr hud dal yna. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y gyfres nesa, lle fydden nhw’n gadael y llyfrau ar eu holau, a lle fydd pethau yn mynd yn hollol Horlix draw yn Westeros, os oes unrhyw goel yn y straeon cynnar o’r set. Ella bod mis Rhagfyr yn rhyfeddol o gynnes yma yn y byd go-iawn, ond draw yn Westeros, mae’r gaeaf yn sicr yn dod…

Dewis Arall: House Of Fools
Fedrith Reeves & Mortimer ddim rhoi troed o’i le yn fy marn i. Ac er bod y gyfres yma ddim yn cyrraedd uchelfannau The Smell of Reeves & Mortimer na phenodau gorau Shooting Stars, mae o’n dal i fod yn hwyl gwyllt, a mor hyfryd o amaturaidd ag erioed. ‘Da chi ddim ‘di byw tan i chi weld y darn efo’r tatŵ Jeremy Clarkson…

Ffilm: Mad Max: Fury Road

Mad-Max-Fury-Road-lovely-day

Fel mae un cymeriad yn ei ddweud mor gofiadwy yn The Force Awakens, “I’m being torn apart.” Ydi, mae’r Star Wars diweddara yn brofiad hyfryd, sy’n gwneud i chi deimlo fel plentyn deg oed unwaith eto… ond mae o hefyd yn rhyfeddol o debyg i A New Hope, ac yn teimlo ar brydiau mwy fel set-up ar gyfer y ffilm nesa na phrofiad cyflawn.

Felly, er fy mod i mae’n debyg am wylio The Force Awakens ddwsinau o weithiau eto, ac er bod fy fanboy Star Wars mewnol yn sgrechian mewn protest ar y funud, mae’n rhaid i mi gyfadde bod Mad Max: Fury Road yn ffilm well.

Mae’n teimlo fel ffilm na ddylai fodoli o gwbwl. Dilyniant i gyfres sydd erioed wedi bod ymysg y rhai mwya poblogaidd, 30 mlynedd ar ôl y ffilm ddiwetha. A gwir ddilyniant hefyd, yn hytrach na ryw “reboot” bondigrybwyll arall. Wedi ei gyfarwyddo gan ddyn sydd bellach yn ei saithdegau, ac wedi treulio’r 90au a’r 2000au yn cyfarwyddo clasuron fel y ffilmiau Happy Feet Babe: Pig In The City. A ffilm hefyd sy’n dibynnu ar effeithiau hen-ffasiwn, gyda phopeth ddim wedi ei foddi mewn CG.

Mae’r cymeriadau yn cydio, y deialog (pa ddeialog sy’ ‘na, o leia), yn eiconig yn syth, a’r stynts (ac mae’r holl ffilm yn un stynt hir, deud y gwir) yn eich cadw ar flaenau eich traed, yr actio yn benigamp, y golygfeydd yn syfrdanol… dim byd llai na champwaith. Mwy plis. Llawer, llawer mwy.

Dewis Arall: Star Wars: Episode VII – The Force Awakens
Gweler uchod. Neu hwn. Neu unrhywbeth arall ar y we ar hyn o bryd.

O, ac un mensh bach i ffilm waetha’r flwyddyn – American Sniper. Dwi’n synnu bod stwff mor annymunol, barbaraidd, a hiliol yn dal i gael ei ryddhau. Un i’w osgoi yn sicr.

Whiw. Roedd gwneud y dewisiadau yna’n anoddach na’r disgwyl. Ac mae pethau am fynd yn anoddach eto, mae’n debyg. Wythnos nesa – gêm y flwyddyn. Ac mae hi wedi bod yn flwyddyn gref. Wela i chi bryd hynny.

– Elidir

4 comments

  1. Hei, dw i ‘di dod yn hoff iawn o Rogue Jones, diolch am ddangos pwy ‘di nhw i mi! Hoffi’r blod ‘ma yn fawr 🙂

Leave a Reply to fideowyth Cancel reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s