Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar pricolawenydd.com, Mehefin 23, 2014.
Helo a howdi dŵ.
Mae’n ddrwg gen i doedd ‘na ddim byd ar y blog wythnos diwetha. Wnes i ffilmio fideo dros y penwythnos, ond mae ‘na siawns go dda bod o’n hollol rybish. Wna i ddechrau golygu’r peth, ond dwi’m yn siŵr fydda i’n ei gyhoeddi o. Hei ho. ‘Da chi byth yn gwbod.
Felly pam dwi ‘di bod yn rhy brysur i ddelio efo’r blog yn ddiweddar? Wel… dwi ‘di bod yn trio gweithio. Ond rhwng pyliau prin o wneud rwbath cynhyrchiol efo fy mywyd, dwi ‘di bod yn chwarae Hearthstone.
A rhwng y frawddeg diwetha a’r frawddeg yma, dwi ‘di bod yn chwarae Hearthstone.
Hearthstone. Hearthstone Hearthstone.
Hearthstone.
…
Am be o’n i’n sôn eto? O ia. Hearthstone. Hei, dwi ddim ‘di chwarae hwnna am sbel.
‘Da chi’n cael y pictiwr. Dwi chydig bach yn obsesd efo fo. Ac mae’r diolch i gyd i fy nghohort o Fideo Wyth, Daf Prys. Wnaeth o sôn am y gêm yn sydyn mewn e-bost, ac o’r ychydig o’n i’n gwybod amdano fo cyn hynny, roedd o’n swnio’n rhyfeddol o debyg i’r gêm gardiau Magic: The Gathering. Yn digwydd bod, ro’n i’n adolygu’r fersiwn digidol o Magic ar y pryd, ac felly wnes i benderfynu lawrlwytho Hearthstone er mwyn rhoi clipiau ohono fo yn fy adolygiad. A dyma ni’r canlyniadau fan hyn:
Rŵan, os na ‘da chi’n gyfarwydd efo Hearthstone yn barod, ella bod chi’n meddwl ‘mod i’n nyts am lawrlwytho gêm jyst er mwyn cynnwys ychydig o eiliadau ohono fo mewn fideo. Wel, dyna un o’r pethau gora am y gêm. Mae o am ddim.
Siriys. Am ddim go-iawn. Fedrwch chi ei chwarae o a’i fwynhau o heb wario ceiniog – yn wahanol i rai gemau eraill fyswn i’n gallu eu henwi. Fedrwch chi fynd ati i’w lawrlwytho fo rŵan. Y funud yma. Fan hyn.
Dwi wir ddim yn gwybod pam ‘da chi’n dal i ddarllen hwn. Ond os ydach chi isio dipyn bach mwy o berswâd…
Mae Hearthstone yn fersiwn cwbwl ddigidol o “gemau cardiau casgladwy” (collectible card games), ar gael ar PC, Mac ac iPad, ac wedi ei ddylanwadu lot, fel ddywedais i yn fy adolygiad uchod, gan Magic: The Gathering. Ond, yn wahanol i Magic, does dim rhaid i chi wario ar gardiau! O gwbwl!
OK, OK, wna i fod yn onest… mae ganddoch chi’r dewis i wario ar gardiau. Os ‘da chi isio. Ond dwi ‘di bod yn chwarae am dros fis bellach, a ddim wedi teimlo’r awydd i wario pres ar y gêm unwaith. Mae ‘na wastad gyfleoedd i ennill paciau ychwanegol o gardiau – ac os ‘da chi’n digwydd ennill cardiau ‘da chi’n berchen arnyn nhw’n barod, gewch chi eu dinistrio nhw er mwyn creu cardiau o’ch dewis chi. Ac mae ‘na rai sgleiniog aur i’w casglu, a chardiau newydd ar y ffordd yn fuan, acomaigoddwishochwaraeoeto’rfunudma.
Ahem.
Ar ôl tiwtorial byr, mae ganddoch chi’r opsiwn i bractisio yn erbyn y cyfrifiadur, practisio yn erbyn rhywun go-iawn, neu chwarae’n gystadleuol er mwyn gweithio’ch ffordd i fyny’r gynghrair o chwaraewyr. Mae cyflawni tasgau (rhai gwahanol bob dydd) yn ennill aur i chi, gyda bob pecyn newydd o gardiau yn costio 100 o ddarnau aur.
Ac yna, y rhan gorau o’r gêm yn fy marn i – ar ôl curo’r naw math gwahanol o chwaraewr (Druid, Hunter, Mage, Paladin, Priest, Rogue, Shaman, Warlock, Warrior), ‘da chi’n datgloi’r opsiwn i chwarae yn yr Arena. Am 150 o ddarnau aur, ‘da chi’n cael dewis cyfyngedig o gardiau, ac yn gorfod para yn erbyn chwaraewyr eraill yn yr Arena cyn hired ag y gallech chi. Y mwya o gemau ‘da chi’n eu hennill, y gorau ydi eich gwobr. Mae o’n briliant o fecanwaith – ac mae’r opsiwn yna i dalu pres go-iawn i chwarae yn yr Arena hefyd, os oes ganddoch chi ormod o arian a dim digon o frêns.
Alla i ddim pwysleisio gymaint pa mor addictive ydi hyn i gyd. Ac er ‘mod i ddim yn ffan mawr o ddefnyddio’r gair yna i ddisgrifio gemau – dwi’n ffeindio bod o’n tanseilio gwerth artistig y peth rywsut – mae Hearthstone yn sicr yn mynd allan o’i ffordd i fod mor gaethiwus a phosib. Wrth i chi ddisgwyl am rywun i’ch brwydro chi, er enghraifft, mae’r gêm yn edrych fel peiriant slot, yn syth allan o Las Vegas. Ond, yn wahanol i’r casinos yn Vegas, mae’n falch gen i ddweud bod ‘na gloc yng nghornel y sgrîn, wastad yn eich atgoffa chi bod ganddoch chi waith i’w wneud. Diolch byth am hynny – oni bai am y cloc ‘na, fyswn i ddim wedi gwneud unrhywbeth arall dros y mis diwetha.
A dydw i ddim yn hapus efo dim ond chwarae’r gêm chwaith. Dwi hefyd wedi bod yn gwylio fideos o bobol eraill yn gwneud.
Oes. Mae gen i broblem.
Ond heb i chi chwarae Hearthstone, alla i ddim esbonio pa mor gyffrous ydi o gwatshiad rywbeth fel’ma:
Dyna Trump, gyda llaw – o bosib chwaraewr Hearthstone gorau’r byd. Siwpyrstar, os fuodd ‘na un erioed.
Dwi ‘di bod yn arbennig o gaeth i fideos The Adipose TV – a dwi hyd yn oed yn eu argymell nhw i’r rhai ohonoch chi sydd erioed wedi chwarae’r gêm, achos dydi o ddim wastad yn cymryd yn ganiataol bod pawb sy’n gwylio yn gyfarwydd efo pob agwedd ohono fo. Mae o’n well os ydach chi wedi chwarae rownd neu ddau wrth gwrs, ac mae’n debyg y gwnewch chi ddysgu dipyn o strategaethau newydd wrth watshiad ei stwff hefyd. Ac alla i ddim mynnu bod chi drueniaid sydd ddim wedi cael y pleser o chwarae Hearthstone yn gwylio ei fideos o, achos dwi’n gwybod bod ganddo chi bethau gwell i’w gwneud.
Fel chwarae Hearthstone.
Wir, alla i ddim argymell y gêm ‘ma ddigon. Dyma’r linc i lawrlwytho fo, os fethoch chi o’r tro cynta.
Gyda chardiau newydd yn cael eu hychwanegu’n fuan – a minnau ddim wedi dod yn agos at ddod yn agos at gasglu’r cardiau sy’n bodoli eisoes i gyd eto – fedra i weld fy hun yn chwarae Hearthstone am fisoedd, os nad blynyddoedd, i ddod. Mae o’n uniad perffaith o gêm fwrdd a gêm gyfrifiadur – rhai o fy hoff bethau i, os na ‘da chi ‘di sylwi – a ddylsa fo ddod efo rhybudd iechyd. Mae o mor dda â hynny.
Os hoffech chi chwarae yn fy erbyn i ar ôl i chi lawrlwytho’r gêm…
… a ‘da chi yn mynd i lawrlwytho’r gêm, dydach? Famma mae o…
… fy enw i ynddo fo ydi ElliotSquash. Wela i chi yna.
Whiw. Diolch byth bod hwnna drosodd. Alla i fynd nôl at chwarae Hearthstone rŵan. Ac ella wna i ffeindio amser i fwyta rywdro ‘fyd.
[…] Wnes i alw hwn yn “gêm y flwyddyn” sbel yn ôl. Gewch chi ddarllen am Hearthstone, mewn lot gormod o fanylder, fan hyn. […]
[…] datgelu’r gêm, ella y byddwch chi’n cofio ein bod ni, yn gynharach yn y flwyddyn, wedi pigo Hearthstone fel un dewis posib. Ac er ein bod ni wedi mwynhau’r gêm lot fawr iawn, gydag un […]
[…] selog f8 yn gwybod am fy obsesiwn efo’r gêm gardiau Hearthstone gan Blizzard. Wnes i ei drafod yma am y tro cynta yn ystod haf 2014, a dwi wedi bod yn trio ei wasgu i mewn i bob sgwrs ers hynny. Os ‘da chi […]
[…] gêm gardiau ddigidol fel Hearthstone – fy hoff gêm o’r blynyddoedd diwetha – ac yn spin-off o The Witcher 3, sydd […]
[…] y pwynt yna, ro’n i wedi bod yn chwarae am ddwy flynedd. Roedd hynny’n dilyn darn arall, pan ddaeth y gêm allan gynta, pan ofynnais i ai Hearthstone oedd gêm gorau […]