Y Cyfieithiadau Coll

gan Elidir Jones

Neithiwr fe wnes i ddysgu bod cyfieithiad Gwyddeleg o’r nofel A Game Of Thrones ar y gweill. Yn ôl y wefan yma (da ‘di Google Translate), fe gafodd y cyfeithiad ei ddatgelu haf diwetha, a roedd y llyfr i fod i gael ei gyhoeddi fis Medi. Hyd yn hyn, does dim golwg ohono fo.

Ia. Does dim rhaid i chi efelychu George R.R. Martin ym mhob agwedd o’i waith, bois.

Bosib iawn eich bod chi’n gallu gweld lle mae hwn yn mynd yn barod. Mae gan yr iaith Wyddeleg lawer llai o siaradwyr na Chymraeg. Mae’r un peth yn wir am iaith Gwlad yr Iâ, ac mae nhw wedi llwyddo i gyfieithu A Game Of Thrones, A Clash Of Kings, ac A Storm Of Swords yn barod. Dyna sut mae ei gwneud hi.

Mae ‘na gysylltiad fan hyn, wrth gwrs: mae’r gyfres deledu yn cael ei ffilmio yn rhannol yn Iwerddon a Gwlad yr Iâ, ac felly mae’r cyhoeddwyr yn amlwg yn gobeithio y bydd hynny’n shifftio dipyn mwy o gopïau. Ond hyd yn oed wedyn… c’mon. Dydi hi ddim yn hen bryd i ni yng Nghymru ymuno â’r parti?

Game-of-Thrones-Episode-9

Y… dim y parti yna, os yn bosib.

Y gwir plaen ydi bod to llenyddol y wlad ‘ma – y beirniaid, yr adolygwyr, a rhai o’r cyhoeddwyr – yn gwbwl ddi-ddeall pan mae’n dod at ffantasi a ffuglen wyddonol. Sticiwch lyfr gyda dim ond ychydig o elfennau ffantasïol o’u blaenau nhw, a waeth iddo fo fod wedi ei sgwennu mewn Sindarin ddim.

Fe wnes i ryddhau nofel yn ddiweddar (copïau dal ar gael, ffans!). Er ei bod hi’n sicr yn stori ffuglen wyddonol, dwi ddim yn meddwl bod yr elfennau yna’n rhy drwm, a’i bod hi – er y llu o gyfeiriadau at ddiwylliant nyrd – yn weddol hawdd deall y syniad canolog. Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol, ond mae hynny’n mynd law-yn-llaw efo’r cyfaddefiad bod yr adolygwr neu’r darllenwr ddim wedi arfer darllen y math yma o beth, neu’n gyndyn i wneud. Ges i un adroddiad (proffesiynol) ar fersiwn cynnar o’r nofel wnaeth gamddeall y pethau mwya sylfaenol amdani. A ‘da ni ddim yn sôn am hard sci-fi fan hyn. Yn Llanberis heddiw mae’r llyfr wedi ei seilio, dim yn y dyfodol pell ar y blaned Klang.

Ar y funud, dwi’n gweithio ar fy nofel nesa. Tro ‘ma, mae’n ffantasi pur, wedi ei seilio mewn byd arall efo ei thirwedd a’i chrefydd a’i hanes ei hun, yn cynnwys digonedd o hud a bwystfilod ac arwyr a stwff da fel’na. Hyd yn hyn, dwi’n cael lot o hwyl yn ei sgwennu, ac yn meddwl bod ‘na botensial mawr yn y peth. Ond dwi’n gwybod yn iawn y bydd o’n cael ei anwybyddu’n llwyr gan lot o lenorion ac adolygwyr “parchus”. Sydd braidd yn drist.

Dwi’n hollol sicr y byddai cyfieithu ychydig mwy o glasuron ffug-wydd a ffantasi i’r Gymraeg yn newid pethau. Mae’n bwysig nodi, fel dwi wedi ei wneud dro ar ôl tro, bod y math yma o ysgrifennu ddim yn beth niche o gwbwl bellach. Tysa chi’n sticio cyfieithiad Cymraeg o The Hobbit mewn llyfrgell ysgol, mae’n siŵr gen i y byddai’r plant yn ei ddarllen yn awchus, yn mynd ymlaen wedyn at ddarllen mwy o bethau tebyg, ac yn darllen mwy o Gymraeg yn gyffredinol. Ac efallai’n rhoi go ar ysgrifennu dipyn eu hunain…

Mae’n syfrdanol bod ‘na ddim cyfieithiadau o The Hobbit The Lord Of The Rings wedi bod eisioes, a chysidro eu bod nhw wedi gwerthu mwy nag unrhyw lyfr arall yn yr ugeinfed ganrif, a gan gofio gymaint oedd dyled Tolkien tuag at yr iaith Gymraeg. Mae ‘na lyfrau wedi eu sgwennu am ei berthynas â Chymru – yn Saesneg – ond dydi ei lyfrau ddim ar gael yn yr iaith roedd ganddo fo gymaint o barch a chariad tuag ati. Nyts.

Gyda llaw – un darn o wybodaeth diddorol ddaeth allan o’r drafodaeth yng ngŵyl Diwrnod Yng Nghymru Fydd fis Tachwedd oedd bod rhai cyhoeddwyr wedi cael y cynnig i gyhoeddi’r llyfrau ‘ma yn Gymraeg, a hynny’n weddol ddiweddar, ond wedi gwrthod. Fyswn i’n sicr yn hoff o wybod pam.

Wrth gwrs, dydi’r Gymraeg ddim yn hollol brin o gyfieithiadau fel’ma. Roedd ‘na fersiynau Cymraeg o rai o lyfrau Narnia C.S. Lewis ar un pwynt, ond dydyn nhw ddim wedi bod mewn print am flynyddoedd maith. Mae ‘na hefyd gyfieithiad ar gael o’r llyfr cynta yn y gyfres Harry Potter. Dwi ddim yn gyfarwydd efo Potter fy hun (dwi’n gwbod, dwi’n gwbod…), ond dwi’n clywed gan ffans ei bod hi’n gyfeithiad da. Serch hynny, pa gymhelliad sydd i’w darllen hi os dydi’r llyfrau eraill yn y gyfres ddim ar gael?

Mae’r un peth yn wir am yr un cyfeithiad o gyfres Discworld Terry Pratchett, sef Lleidr AmserOK, does dim rhaid i chi ddarllen bob un o’r llyfrau ‘ma yn eu trefn i allu eu mwynhau, ond pam dim ond cyfieithu un llyfr o ganol y gyfres? Dydi hi ddim yn syniad gwell dechrau efo’r cynta, The Colour Of Magic, a gweld sut mae pethau’n mynd o fanna? Yn anffodus, ro’n i’n teimlo bod y cyfeithiad yma braidd yn stiff beth bynnag. Mae’n anodd iawn dal hiwmor unigryw Terry Pratchett mewn iaith arall, yn amlwg.

Ond pan ‘da chi’n cysidro’r torreth o glasuron hen a newydd sy’n boblogaidd dros y byd, mae hynny braidd yn bathetig. Tolkien a George R.R. Martin ydi’r mawrion, wrth gwrs, ac ella y dylid dechra drwy gyfieithu eu gwaith nhw. Ond mae ‘na hefyd The Name Of The Wind gan Patrick Rothfuss, llyfrau Earthsea Ursula LeGuin, Cugel The Clever gan Jack Vance, The Black Company gan Greg Cook, cyfres Conan gan Robert E. Howard, nofelau lu Brandon Sanderson, Robin Hobb, Joe Abercrombie, Daniel Abraham, Scott Lynch, Robert Jordan…

Eto: dim straeon niche ydi rhain. Mae nhw’n hynod o boblogaidd mewn dwsinau o ieithoedd. Weithiau mae’n teimlo i fi fel mai dim ond yn ein iaith ni mae’r pethau ‘ma’n niche bellach. Ac mae hynny’n broblem.

Dydi cyfieithiadau ddim am newid bob dim, wrth gwrs. Mae angen gweithiau Cymraeg gwreiddiol yn fwy na dim byd arall. Ond mae hyn yn un ffordd reit ddibynadwy o ddenu mwy o bobol at ddarllen yn Gymraeg – ac ella addysgu ychydig o’r to hŷn yr un pryd.

Ond be dwi’n wbod? Unrhyw awduron gwerth eu halen isio dweud eu dweud? Neu gyhoeddwyr? Neu unrhywun sy’n medru darllen, deud y gwir? Sticiwch sylw yn y bocs.

22 comments

  1. Helo.
    Dwi ddim yn gweld y pwynt o gyfieithu llyfrau mor boblogaidd, yn enwedig rhaid i oedolion, i’r Gymraeg. Fydden nhw fyth gystal â’r fersiynau go iawn, ac alla i ddim dychmygu pam fydde unrhyw un yn blaenoriaethu darllen y fersiwn wedi ei chyfieithu dros y gwreiddiol. Ac i feddwl fod y cyfrolau ti’n cyfeirio atynt yn rhai hir hir, fydden i’n sicr ddim yn mynd ati i ddarllen y ddwy fersiwn!
    Mae pres yn y byd cyhoeddi Cymraeg yn brin ofnadwy, mi ddylen ni fod yn taclo’r broblem o greu cynnwys gwreiddiol, da – a hynny ym mhob genre – dros wario ar gyfieithu llenyddiaeth rhywun arall.
    Dwi’n cytuno fod cynulleidfaoedd Cymraeg yn dueddol o anwybyddu sci-fi, a unrhyw beth ffantasïol. Ond mae’r cynulleidfa yn fychan iawn, ac yn draddodiadol. Daliwn ati i sgwennu sci-fi Cymraeg nes y bydd rhywun yn cymryd sylw, a rhywun berswadio Robin Llywelyn i ailgychwyn arni eto wir Dduw!
    Leusa

    • Diolch am y sylw, Leusa. Chydig o ymateb gen i:

      Meddwl ydw i am y gynulleidfa sydd ddim yn darllen Cymraeg o gwbwl, yn hytrach na’r rhai sydd yn darllen gweithiau Cymraeg yn barod. Felly’r cwestiwn ydi: ydyn nhw’n fwy tebygol o ddarllen y math yma o beth na’r stwff sydd ar gael yn barod? H.y. dydi hi ddim yn fater o ddarllen y fersiwn Gymraeg a’r un Saesneg. Dwi ddim yn gweld yn bersonol eu bod nhw’n cystadlu efo’i gilydd. Ond ella ‘mod i’n anghywir yn hynny o beth.

      Mae lot o’r llyfrau ‘ma yn apelio at ystod eang iawn o oedrannau, sy’n neis. Ond dim bob un, yn sicr.

      Cytuno’n llwyr mai ar greu cynnwys newydd ddylai’r pwyslais fod. Ond gweld o’n i bod lot o ieithoedd eraill (llai) yn cyfieithu’r stwff ‘ma, felly o’n i jyst yn pendroni pam allwn ni ddim.

      Anghytuno bod y gynulleidfa’n “fychan iawn”, fel dwi’n ei ddweud yn y cofnod. Mae’n fychan ymysg darllenwyr Cymraeg cyson, ella, ond dim dyna’r prif gynulleidfa. Cael pobol i ddarllen stwff Cymraeg sydd ddim fel arfer yn gwneud ydi’r nod fan hyn. O’m rhan i, un rheswm pam dwi ddim yn darllen gymaint o Gymraeg a ddyliwn i ydi’r ffaith bod pethau fel’ma ddim ar gael. Mae’r siartiau rhyngwladol yn llawn stwff genre, a dwi’n meddwl bod hi’n hen bryd tapio mewn i’r gynulleidfa yna. Ond mae’r dadleuon yma yr un mor wir ar gyfer deunydd gwreiddiol yn hytrach na chyfieithiadau, wrth gwrs.

  2. Ok, cytuno i ryw raddau. Fi’n cofio darllen cyfieithiadau o fyd Narnia’n ifanc – nid eu bod wedi gwneud gymaint o hynny o argraff… – ac mae’n rhaid i fi gyfaddef, do’n i ddim yn impressed iawn gyda chyfeithiad yr Harry Potter Cymraeg (I mean, Wfftipwff, rili?!) O ran pam na gyhoeddwyd cyfieithiad o’r gyfres gyfan, pwy a wyr? Erbyn hyn, mae’n siwr fod yn hen beth meddwl am gyfieithu Harry Potter, yn enwedig ar ol i bawb bellach ddarllen y llyfrau’n Saesneg a gweld y ffilmiau.

    Dwi’n cyfaddef ‘mod i’n anwybodus ym myd cyfieithiadau hefyd – yn rhannol am fy mod yn twrio am bethau gwreiddiol fel arfer. Mae’n bosib fod yna ambell i berlen allan yna rywle – mae Alice in Wonderland wedi ei gyfieithu sawl tro, er enghraifft – @walesliterature (http://www.waleslitexchange.org/) neu @MakingLitTravel (http://www.lit-across-frontiers.org/) fydd yn gwybod yn y fan hon.

    Mae’n bosib bod ‘na rhyw fath o snobyddiaeth hefyd. Diogrwydd, ar fy ran i’n bersonol, mwy na thebyg, yw peidio a darllen cyfieithiadau Cymraeg. Os ydw i’n gallu ei ddarllen yn Saesneg, pam fydden i’n ei ddarllen yn Gymraeg eto hefyd, gan wybod yn iawn beth sy’n digwydd? Melltith y Gymru ddwyieithog, i ryw raddau. Oes bryd, felly, cyflwyno cystadleuaeth cyfieithu yn y ‘Steddfod i godi proffil cyfieithiadau’n gyffredinol? (Mae ‘Ai’r Steddfod a Beirniaid Llenyddol yw’r be all and end all o’r byd cyhoeddi Cymraeg?’ yn gwestiwn arall.)

    Ni’n gweld patrwm o gyfieithu llyfrau plant, yn rhannol oherwydd pris cyhoeddi gwaith celf a dylunio gwreiddiol. O bosib, am ei fod yn haws. Dwi’m yn meddwl fydden i eisiau taclo clamp o lyfr fel Lord of the Rings. Ond, os oes modd cyfieithu gwaith mor Seisnig a’r Famous Five a gweithiau David Walliams, mae’n rhaid bod modd cyfieithu pethau fel Yr Hobbit i’r Gymraeg.

    OK, diwedd y traethawd.
    – Miriam

    * Gyda llaw, Eurig Salisbury wedi cyfieithu Far Over the Misty Mountains mewn rhifyn o Taliesin, Af i chwilio amdano i ti, Elidir. Byddi di naill ai wrth dy fodd neu’n horrified.

    • Diolch am y traethawd! Yn falch ohono.

      Pwynt wnes i ddim ei wneud yn y cofnod yma ydi bod y stwff yma fel arfer wedi ei anelu at bobol sydd ddim yn darllen lot o Gymraeg fel arfer. Ella’u bod nhw’n dechra darllen y fersiwn Cymraeg achos bod o ar gael yn y llyfrgell ysgol neu beth bynnag, yn hytrach na thrafferthu darllen y fersiwn Saesneg hefyd. Felly ella mai dim fi a chdi ydi’r gynulleidfa graidd beth bynnag! Lot o’r stwff ‘ma yn apelio at bobol o bob oed, a chydig o’r stwff ddim yn arbennig o hir. Ond dwi’n gweld dy bwyntia di.

      Dwi’m yn gwneud lot o sens. Sori. Mae fy mhwerau rantio wedi fy ngadael i erbyn hyn.

      • Na, na, I’m with you. Mae hynna’n bwynt. Wedi meddwl eto, y Narnia Cymraeg ddarllenais cyn y Saesneg, ond ar ol gweld y ffilm! Ond mae’n wir yn gyffredinol bod snobyddiaeth am y genre, nid yn unig y cyfieithiadau ond gwreiddiol hefyd. Dwi’m yn meddwl ei fod yn broblem o brinder deunydd erbyn hyn, ond am agwedd darllenwyr Cymraeg tuag at yr hyn sydd gyda ni.

        Gyda llaw, yn Taliesin Cyfrol 147,mae ‘Can y Coriaid. Oes nad oes gennyt lyfrgell o Daliesins yn handi, galla’i sganio fe i t.

        – Miriam

      • Mae’n iawn – elli di ddim symud yn llyfrgell coleg Bangor heb faglu dros gopi o Taliesin! Ga i olwg. Dwi wedi gwneud y penderfyniad stiwpid o roi cwpwl o ganeuon yn y llyfr newydd. Ella ddylswn i sbio ar hwnna er mwyn cael tips. Neu gael rhywun arall i’w sgwennu nhw, thgwrs.

    • Wel ‘na, mae gen i gyfieithiad o Gân Galadriel, yr un sy’n diweddu, “But if of ships I now do sing …,” ond i’r Gernyweg yn lle’r Gymraeg … sorri am hynny. Dyma hi beth bynnag :

      —-
      A dhel y kenis, del owreg : yn tyller heb parow,
      Ha’n gwyns a dho, ‘vel hwyth kosel : der oll an skorrennow.

      A-dryv an howl, a-dal an loer : yth eze mordardh lowr,
      Hag eno worth Treth Ilvarin : y teve Prenn an Owr.

      Yn-dann an ster byz vynnari : ow terlentri mar deg,
      Erbýnn an fos, dhe Edhelvar : a Dirïon Edhleg.

      Hir-devyz yw an Del a Owr : war varrow blydhenyeg,
      Hag omma dres Moryow Dibarth : y koedh dagrow Edhleg.

      A Lorïen, an gwav a dheu : pan vydh pub gwydh di-dhel,
      Pub delenn y’n avon a goedh : ha’n liv a’s deg a-wel.

      A Lorïen, hir re drigis : war lann an wlaz estren,
      Ha’n Ster-an-Howl, gwedryz, plethyz : y’n gurunn war ow fenn.

      Mar kanav vy a worholyon : py skath a’m portho vy?
      Py par lester dhe’m doen arte : a-dreus mar vras weylgi?
      —-

      Ydi’n bosib i rywun ei haddasu i’r Gymraeg??

      • Dwi ddim yn siwr am hyn, ond yn llythrennol (mwy neu le) …

        O chanaf i am for-lestri : pa ‘sgraff a’m portho fi?
        Pa fath o lestr i’m dwyn yn ôl : ar draws mor fawr weilgi?

        Rhywbath arall dwi wedi dod o hyd :

        JRRT “We do not love the sword for its brightness, nor the arrow for its swiftness. Nor the warrior for his glory. We only love that which they defend.”

        Ny geryn an kledhe gluw — rag lymmder,
        na seth uskis na guw,
        Ny geryn gwerryor na ruw,
        Saw gwithyzi agan pluw.

        Dim cynghanedd, o diar 😦

  3. Dwi’n cytuno gyda Leusa fan hyn am gyfieithu nofelau mor fawr a mor boblogiadd yn barod. Ti jyst yn gwastraffu arian ac amser – deunydd gwreiddiol yw’r ateb. Nes i ddarllen Harri Potter a Maen yr Athronydd, ac er bod y cyfieithiad o’r stori yn dda, oedd y termau a’r enwau jyst ddimyn gweithio. Run peth gyda hiwmor Pratchet – dwi ddim yn credu bod e’n dod drosodd yn adaptations Nadolig Sky chwaith. Ond mae na dipyn o nofelau YA ffantasi o Gymru hefyd, stwff Diana Wynne Jones e.e. – yw rhein wedi cael eu cyfieithu?

    Mae’n rhyfedd bod cynulleidfa gwlad sydd â’i llenyddiaeth wedi adeiladu ar ffantasi y Mabinogi yn wfftio ffantasi fodern, ond dwi yn deal bod y diwygiad yn y 19eg ganrif wedi effeithio tipyn ar hyn – nofelau Cymraeg mwyaf cŵl o oes Fictoria yw memoirs pregethwr o’r Wyddgrug ffoffycsêc! Wedyn oedd pawb yn addoli sagas diflas Kate Roberts cyn i Caradog Pritchard fod yn ‘edgy’ ac ers hynny ma pob llyfr Cymraeg o safon yn goffod cal llosgach ynddo fe (ddim yn anhebyg i GoT).

    Dwi ddim yn credu neith crachach llenyddol byth dderbyn ffantasi fel genre, er bod nifer o’r llyfrau gorau erioed, sy’n dadansoddi’r byd sydd ohoni ac yn codi cwestiynau pwysig (1984, Slaughterhouse 5, Catch 22 e.e.) i bob pwrpas yn ffantasi neu wyddonias. Sdim ots faint ti’n trio esbonio taw platform i drafod syniadau mawr y byd yw’r genre ar i orau, ma pobol dal yn meddwl taw dungeons and dragons yw e i gyd.

    • Diolch. Cytuno efo lot o dy bwyntiau di. Dwi ddim cweit yn deall y gwrthwynebiad i gyfieithu stwff poblogaidd, serch hynny. Mae’n debyg mai esgus i wneud penawdau ydi cyfieithu’r petha ‘ma yn y pen draw – ella cael dipyn o sylw i ysgrifennu Cymraeg mewn llefydd na fyddai fel arfer yn rhoi’r sylw ‘na. Bach yn sinigaidd o beth i’w wneud, ond dyna ni. At y pwrpas yna, dim cyfieithu stwff poblogaidd ydi’r ffordd i fynd?

      Fel dwi ‘di ddeud (yn yr erthygl ac yn y sylwadau), mae cynhyrchu stwff gwreiddiol yn amlwg yn beth lot iachach i’w wneud, a dwi wrthi’n gwneud hynny ar y funud. Ond dwi ddim yn hyderus y bydd stwff fel’na yn cael yr un math o sylw. Fyswn i wrth fy modd yn cael fy mhrofi’n anghywir…

      Wnes i feddwl am Diana Wynne Jones, er wnes i ddim ei chrybwyll hi fan hyn. Ddim yn credu bod ‘na gyfieithiadau ar gael. Dyna enghraifft berffaith o awdur o Gymru sy mor ddylanwadol dros y byd, a ‘da ni ddim isio gwbod am y peth oherwydd y genre.

      Yr un math o bwynt dwi’n trio ei wneud am Tolkien. Mae’n wirion bod ‘na ddim ymdriniaethau mawr (i mi wybod amdanyn nhw, o leia) o’i ddefnydd a’i hoffter o’r iaith Gymraeg, yn Gymraeg. Dydi The Hobbit ddim yn lyfr hir o gwbwl – be am fersiwn Cymraeg, yn cynnwys cyflwyniad newydd yn esbonio ei gysylltiadau efo’r wlad a’r iaith? Ddim yn brosiect mawr o bell ffordd, ac yn sicr am ddenu sylw.

  4. Dwi ddim yn awgrymu peidio cyfieithu am eu bod nhw’n boblogaidd, ond yn fwy oherwydd bo nhw mor fawr a dyrys ac anhylaw, mae’n mynd i gymryd run faint o waith i gyfieithu ag yw hi i greu byd hollol newydd… a wedyn ma dy gynulleidfa wedi darllen e yn barod beth bynnag. Ond mae’r Hobbit yn bendant yn ospiwn.

    Dwi’n dwlu ar stwff Jorge Luis Borges, cyfuniad anhygoel o ffantasi, gwyddonias a bydoedd o fewn bydoedd, ac wedi bod yn meddwl am gyfieithu rhai o’i straeon e i’r Gymraeg. Cynulleidfa wahanol, a tasg uchelgeisiol dwi’n gwbod (!) ond pam lai?

    Dwi’n deal (a cytuno i raddau) gyda dy syniad sinigaidd o greu ryw fath o fomentwm drwy ddechrau gyda chyfeithiadau poblogaidd, ond dal yn credu taw’r broblem yw meddylfryd ysgolheigaidd, dilornus beirniaid llenyddol (ddim jyst yn Gymraeg) sy’n treiddio wedyn i’r boblogaeth gyffredinol. Newydd fod yn darllen adolygiad Llyr Titus yn Barn ac mae’r paragraff cynta jyst yn lleddfu ein hofnau nad yw’r “elfen ffuglen wyddonol … yn llethu popeth arall ynddi”. Os taw felna ti’n dechrau adolygiad positif, ti wedi colli’n barod. Dwi ddim yn lladd ar Llyr fan hyn, mae jyst yn endemig o sut mae’r byd yn gweld y genre ei fod e’n teimlo bod yn rhaid dechrau gyda caveat.

    • Ie, rwy’n cytuno fod GoT yn llawer rhy fawr a ddwys i fod yn ddewis da ar gyfer cyfieithu, ond ar y llaw arall mae nofelau henach — e.e. cyfres Earthsea Ursula le Guin (neu ei nofel sf wleidyddol ddylanwadol, ‘The Dispossessed’, buaswm yn ddwli ar gyfieithiad da o ‘The Dispossessed’…) [1] — yn llawer byrrach ac efallai yn fwy addas.

      Mae Borches yn enghraifft ddiddorol, oherwydd cyfieithiadau yw ei straeon, barddoniaeth ac ysgrifau yn y Saesneg — mae’n wir bosib dadlau ei bod yn bosib ychwanegu rhywbeth newydd ar lefel artistig wrth ei gyfieithu o’r Sbaeneg i’r Gymraeg. Ac mae gan Borches ‘cachet’ lenyddol hefyd, sy’n rhywbeth ddylai fod o help gydag agweddau’r beirniad. Wel, *ddylai* fod o help…

      [1] Ar y llaw arall, mae efelychu arddull le Guin yn y Gymraeg wrth gyfieithu yn mynd i fod yn uffernol o anodd. Mae’n uffernol o anodd ei efelychu yn y Saesneg os nad ydych yn Ursula le Guin, wrth gwrs…

  5. Un pwynt am Harry Potter, dydi pawb ddim wedi ei ddarllen / gweld, mae cenedlaethau newydd yn dod trwodd drwy’r amser (fel fy merch, 7 oed) sydd cyn bo hir am fod yn chwilio am her mwy na Dyddiadur Dripsyn. Byddai wedi bod yn dda iddi allu darllen y gyfres ond o leia mae na rywbeth yna.

    Tasen ni’n wfftio cyfieithu fyddai na ddim Tintin ac Asterix Cymraeg a fydden i wedi methu allan ar rhan enfawr o ddarllen Cymraeg fy mhlentyndod (a thrwodd heibio hynny). Dwi’n deall bod y ffurf yn wahanol a’n llai o waith teipio er bod dal angen bod yn driw i’r gwreiddiol wrth ddyfeisio enwau.

    Dwi’m yn gweld unrhyw broblem o gwbl gyda chyfieithu nofelau da, yn arbennig pan ma nhw’n canonical. Dwi’n cytuno efo war cry Elidir – dylai pob ysgol fod efo sdwff adnabyddus ar gael yn Gymraeg yn barod i blant a phobl ifanc godi ar hap.

    Mae cyfieithu yn grefft ynddo’i hun a ma’n bwysig parchu’r grefft yna hefyd. Nid ‘dim ond’ cyfieithiad ydyn nhw, ond cyfraniad pwysig.

  6. Mae’n iawn cyfieithu nofelau i blant/bobl ifanc am eu bod nhw’n ‘captive audience’ ac efallai na fase’n nhw’n sylweddoli fod yna fersiynau Cymraeg (wel roedd hynny yn wir pan o’n i’n fach ond fase ddim yn wir am franchises mawr fel Harry Potter yn amlwg).

    Fel oedolyn, fase’n well gen i ddarllen llais yr awdur gwreiddiol, yn Gymraeg neu Saesneg gan mai dyna’r unig ieithoedd dwi’n rhugl ynddo. Dwi wedi darllen cyfieithiadau nofelau gwyddonias i’r saesneg o ieithoedd eraill ac er fod rhai cyfieithiadau da, mae yna wastad rhywbeth ar goll. O ran ariannu, dwi’n amau fod hi’n ddrud i gael yr hawl i gyfieithu llyfrau saesneg. Dyna pam oedd gymaint o gyfieithiadau Cymraeg o llyfrau/cartwnau dwyrain ewropeaidd yn yr 80au. Efallai fod angen edrych ymhellach na’r byd seisnig.

Leave a Reply to fideowyth Cancel reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s