Mellten yn Taro (am y bedwaredd waith…)

gan Elidir Jones Mae comic Mellten wedi bod allan am bron i flwyddyn erbyn hyn, a rhifyn #4 newydd ei ryddhau. Trwy hyn i gyd, ‘da ni yn f8 wedi byw yn ein bybl bach ac anwybyddu’r ffenomenon yn llwyr. Rhag. Ein. Cywilydd. Ond efo bwndel trwchus o’r comics wedi cyrraedd f8 HQ yn ddiweddar, diolch i olygydd Mellten, Huw Aaron,…

Casgliadau Retro (neu: Ffyrdd Gwych o Anwybyddu’r Etholiad)

gan Elidir Jones Heddiw ydi dyddiad rhyddhau The Disney Afternoon Collection ar y PC, PS4, a’r Xbox One. Mae’n gasgliad o hen gemau Disney, fel mae’r enw’n awgrymu – Duck Tales 1 & 2, Chip ‘n’ Dale Rescue Rangers 1 & 2, TaleSpin, a Darkwing Duck – wedi eu rhyddhau’n wreiddiol ar yr NES. Sy’n gwneud i chi feddwl pam…

Pasg y Podlediadau

gan Elidir Jones ‘Da chi gyd, dwi’n siŵr, yn disgwyl yn eiddgar am bennod nesa ein podlediad, Pod Wyth. Mae’n dod. Dwi’n gaddo. Dwi erioed wedi sôn yn benodol am bodlediadau ar f8, sy’n beth digon od a chysidro ‘mod i’n gwrando arnyn nhw drwy’r amser. Dwi’n sicr yn bwriadu dal i fyny ar bodlediadau…

EGX Rezzed 2017

gan Elidir Jones Am yr ail flwyddyn yn olynol, wnes i dreulio dyddiau cynta Ebrill yn teithio i Lundain er mwyn mynd i sioe EGX Rezzed. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd efo Rezzed, nid sioe gemau arferol mohoni. Mae’n rhoi llai o bwyslais ar glitz a sbectacl, ac yn canolbwyntio ar ddathlu…

Ymestyn yr Hwyl

gan Elidir Jones Ymddiheuriadau, i ddechrau, bod ‘na ddim podlediad ar ddiwedd y mis, fel arfer. Mae’n eithriadol o brysur yn f8 HQ wrth i ni orffen paratoi llwyth o fideos ar gyfer gwasanaeth ar-lein newydd S4C, ar ben trio crafu bywoliaeth o ddydd i ddydd. O, ac mae Daf wedi bod yn adeiladu llochesi i’r…

Henffych i’r Brenin

gan Elidir Jones Ro’n i’n bwhwman o gwmpas Twitter ddoe pan ddes i ar draws hwn: Dyna boster ar gyfer y ffilm gyntaf yn seiliedig ar gyfres ffantasi Stephen King, The Dark Tower, sydd allan fis Gorffennaf. Rhaid i fi fod yn onest – ro’n i wedi anghofio bod hwn yn taro’n sgrîns ni flwyddyn yma, er…

Yn Erbyn y Ffrwd

gan Elidir Jones Ar yr olwg gynta, mae gwefannau fel Twitch yn edrych fel manna o’r nefoedd i ffans o gemau. Cant a mil o sianeli gwahanol yn ffrydio gemau’n fyw, o hoelion wyth y sîn e-chwaraeon fel League of Legends a Hearthstone, i glasuron retro, i gemau sydd wedi dod yn llwyddiant ar sail ffrydiau byw fel Stardew Valley…

Deuddydd yn y Gwyllt

gan Elidir Jones Mae’r llwch bellach wedi setlo ar lawnsiad y Switch. Mae cannoedd o filoedd o chwaraewyr bellach yn mynd i’r gwaith neu’r ysgol dan rwgnach, ac yn cyfri’r oriau cyn iddyn nhw gael mynd adre a chwarae New Frontier Days: Founding Pioneers. Neu The Legend of Zelda: Breath of the Wild. Un o’r ddau. Dydi hi ddim…

Anni-(ntendo)-bynnol

gan Elidir Jones Yn eu darllediad olaf cyn rhyddhau’r Switch ar Fawrth y 3ydd, mae Nintendo wedi datgelu llwyth o gemau annibynnol sydd am wneud eu ffordd i’r system. ‘Ma ni: O’r rhain, dwi’n meddwl mai WarGroove a Shakedown Hawaii sy’n apelio ata i. Ond dwi’n sycyr am gemau ecsgliwsif hefyd, felly ella wna i drio Pocket Rumble. Ac mae ‘nghalon…

Pod Wyth #8: “Daf Prys A’i Geg Hud”

gan f8 Pod Wyth! Rhif wyth! I love it when a plan comes together. Ac mae’r un yma’n bennod arbennig iawn. Sut mae’r podlediad rhyng-gyfandirol cynta yn y Gymraeg yn swnio i chi? Ydi, mae Daf yn darlledu o Seattle, tra bod Elidir yn gorfod bodloni ei hun ar Fangor yn y glaw. Dydi hyd…

Hen bryd am gyhoeddwyr o Gymru?

gan Daf Prys (O San Francisco, don’t you know) Heddiw daeth y newyddion syfrdanol bod y gwasanaeth llifo gemau fideo, Twitch, gafodd ei brynu gan Amazon nôl yn 2014, am gychwyn gwerthu gemau drwy ei gwefan o Wanwyn y flwyddyn hon ymlaen. Beth sy’n nodweddiadol am hyn yw bod platfformau arferol i’w gweld yn hollol…

Cystadleuaeth: Ennillwch Gopi o Nioh!

gan Elidir Jones Os welsoch chi fy adolygiad o Nioh, fyddwch chi’n gwybod bod y gêm yn debyg iawn o fod ar fy rhestr i o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Os welsoch chi ddim yr adolygiad, wel… dyma fo. Coeliwch neu beidio, mae gennym ni yma yn Fideo Wyth gopi sbâr o’r gêm ar y PS4 i’w roi, yn rhad ac…